Helen ([info]llygoden) wrote,
@ 2008-03-01 20:21:00
Previous Entry  Add to memories!  Tell a Friend  Next Entry
Current location:adre
Current mood: wedi blino
Entry tags:cyrsiau

Dydd Gŵyl Dewi
Wel, heddiw es i i'r Diwrnod y Dysgwyr (Big Welsh Challenge) yn Goleg Meirion-Dwyfor. Wedi trefnu gan y BBC, oedd y diwrnod llawn o hwyl.

Bore 'ma wnaethon ni gael gwers, pnawn 'ma roedd llawr o weithgareddau. Achos roedd y dosbarth Canolradd Wlpan a Phellach yn llawn, es i i'r dosbarth Uwch a Meistroli. Rargien fawr! Roed hi'n anodd! Mi wnaethon ni ddarllen barddoniaeth! Wnes i ddim astudio barddoniaeth ers blynyddoedd yn Saesneg. Deallais i bopeth ond wnes i ddim siarad o gwbl. :( Ond dim ots, roedd hi'n ymarfer gwerthfawr i wrando.

Ar ôl y cinio (roedd y cinio yn neis iawn: brechdanau, creision, bwyd poeth fel rholiau selsig a phaned o de hefyd -- popeth am ddim!) wnaeth fy ngrŵp i gael sgwrs gan Bethan Gwanas, awdures sy'n sgwennu Bywyd Blodwen Jones a llawr o lyfrau arall. Wedyn aethon ni i siarad efo Gillian Elisa, actores sy'n chwarae Sabrina yn Bobl y Cwm.

Gadawais i ar ôl sesiwn efo Gillian Elisa. Ro'n i'n wedi blino. Roedd fy ymennydd wedi ffrio efo trio i ddeall popeth. :)

Ond mwynheais i'r cwrs yn fawr iawn. Bydd y cwrs nesaf yn y gwyliau Pasg. Dw i eisiau mynd!

(English is here...)




Create an Account
Forgot your login or password?
Login w/ OpenID
English • Español • Deutsch • Русский…